Mathew 20:8-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Gyda'r nos dyma berchen y winllan yn dweud wrth ei oruchwyliwr, ‘Galw'r gweithwyr, a thâl eu cyflog iddynt, gan ddechrau gyda'r rhai diwethaf a dibennu gyda'r cyntaf.’

9. Daeth y rhai a gyflogwyd tua phump o'r gloch, a derbyniasant un darn arian yr un.

10. A phan ddaeth y rhai a gyflogwyd gyntaf, tybiasant y caent fwy, ond un darn arian yr un a gawsant hwythau hefyd.

11. Ac wedi eu cael dechreusant rwgnach yn erbyn y perchen tŷ

12. gan ddweud, ‘Dim ond un awr y gweithiodd y rhai diwethaf yma, a gwnaethost hwy'n gyfartal â ni, sydd wedi llafurio drwy'r dydd yn y gwres tanbaid.’

13. Ond atebodd y meistr: ‘Gyfaill,’ meddai wrth un ohonynt, ‘nid wyf yn gwneud cam â thi. Onid am un darn arian y cytunaist â mi?

14. Cymer yr hyn sydd i ti a dos ymaith. Rwy'n dewis rhoi i'r olaf yma fel i tithau.

15. Onid yw'n gyfreithlon imi wneud fel rwy'n dewis â'm heiddo fy hun? Neu ai cenfigen yw dy ymateb i'm haelioni?

16. Felly bydd y rhai olaf yn flaenaf a'r rhai blaenaf yn olaf.’ ”

Mathew 20