Mathew 13:38-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

38. Y maes yw'r byd. Yr had da yw plant y deyrnas; yr efrau yw plant yr Un drwg,

39. a'r gelyn a'u heuodd yw'r diafol; y cynhaeaf yw diwedd amser, a'r medelwyr yw'r angylion.

40. Yn union fel y cesglir yr efrau a'u llosgi yn y tân, felly y bydd yn niwedd amser.

41. Bydd Mab y Dyn yn anfon ei angylion, a byddant yn casglu allan o'i deyrnas ef bopeth sy'n peri tramgwydd, a'r rhai sy'n gwneud anghyfraith,

Mathew 13