Mathew 12:46-49 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

46. Tra oedd ef yn dal i siarad â'r tyrfaoedd, yr oedd ei fam a'i frodyr yn sefyll y tu allan yn ceisio siarad ag ef.

47. Dywedodd rhywun wrtho, “Dacw dy fam a'th frodyr yn sefyll y tu allan yn ceisio siarad â thi.”

48. Atebodd Iesu ef, “Pwy yw fy mam, a phwy yw fy mrodyr?”

49. A chan estyn ei law at ei ddisgyblion dywedodd, “Dyma fy mam a'm brodyr i.

Mathew 12