Mathew 11:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. “ ‘Canasom ffliwt i chwi, ac ni ddawnsiasoch;canasom alarnad, ac nid wylasoch.’

18. “Oherwydd daeth Ioan, un nad yw'n bwyta nac yn yfed, ac y maent yn dweud, ‘Y mae cythraul ynddo.’

19. Daeth Mab y Dyn, un sy'n bwyta ac yn yfed, ac y maent yn dweud, ‘Dyma feddwyn glwth, cyfaill i gasglwyr trethi a phechaduriaid.’ Ac eto profir gan ei gweithredoedd fod doethineb Duw yn iawn.”

20. Yna dechreuodd geryddu'r trefi lle y gwnaed y rhan fwyaf o'i wyrthiau, am nad oeddent wedi edifarhau.

Mathew 11