Marc 9:45-49 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

45. Ac os bydd dy droed yn achos cwymp iti, tor ef ymaith; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn gloff na chael dy daflu, a'r ddau droed gennyt, i uffern.

47. Ac os bydd dy lygad yn achos cwymp iti, tyn ef allan; y mae'n well iti fynd i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog na chael dy daflu, a dau lygad gennyt, i uffern,

48. lle nid yw eu pryf yn marw na'r tân yn diffodd.

49. Oblegid fe helltir pob un â thân.

Marc 9