Marc 8:25-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

25. Yna rhoes ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef. Craffodd yntau, ac adferwyd ef; yr oedd yn gweld popeth yn eglur o bell.

26. Anfonodd ef adref, gan ddweud, “Paid â mynd i mewn i'r pentref.”

27. Aeth Iesu a'i ddisgyblion allan i bentrefi Cesarea Philipi, ac ar y ffordd holodd ei ddisgyblion: “Pwy,” meddai wrthynt, “y mae pobl yn dweud ydwyf fi?”

28. Dywedasant hwythau wrtho, “Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn, un o'r proffwydi.”

Marc 8