Marc 4:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Ac meddai, “Y sawl sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.”

10. Pan oedd wrtho'i hun, dechreuodd y rhai oedd o'i gwmpas gyda'r Deuddeg ei holi am y damhegion.

11. Ac meddai wrthynt, “I chwi y mae cyfrinach teyrnas Dduw wedi ei rhoi; ond i'r rheini sydd oddi allan y mae popeth ar ddamhegion,

12. fel“ ‘er edrych ac edrych, na welant,ac er clywed a chlywed, na ddeallant,rhag iddynt droi'n ôl a derbyn maddeuant.’ ”

13. Ac meddai wrthynt, “Onid ydych yn deall y ddameg hon? Sut ynteu yr ydych yn mynd i ddeall yr holl ddamhegion?

14. Y mae'r heuwr yn hau y gair.

15. Dyma'r rhai ar hyd y llwybr lle'r heuir y gair: cyn gynted ag y clywant, daw Satan ar unwaith a chipio'r gair sydd wedi ei hau ynddynt.

Marc 4