Marc 15:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Curasant ei ben â gwialen, a phoeri arno, a phlygu eu gliniau ac ymgrymu iddo.

20. Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y porffor oddi amdano a'i wisgo ef â'i ddillad ei hun. Yna aethant ag ef allan i'w groeshoelio.

21. Gorfodasant un oedd yn mynd heibio ar ei ffordd o'r wlad, Simon o Cyrene, tad Alexander a Rwffus, i gario ei groes ef.

Marc 15