Marc 14:44-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

44. Yr oedd ei fradychwr wedi rhoi arwydd iddynt gan ddweud, “Yr un a gusanaf yw'r dyn; daliwch ef a mynd ag ef ymaith yn ddiogel.”

45. Ac yn union wedi cyrraedd, aeth ato ef a dweud, “Rabbi,” a chusanodd ef.

46. Rhoesant hwythau eu dwylo arno a'i ddal.

47. Tynnodd rhywun o blith y rhai oedd yn sefyll gerllaw gleddyf, a thrawodd was yr archoffeiriad a thorri ei glust i ffwrdd.

Marc 14