Marc 13:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. A dechreuodd Iesu ddweud wrthynt, “Gwyliwch na fydd i neb eich twyllo.

6. Fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, ‘Myfi yw’, ac fe dwyllant lawer.

7. A phan glywch am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd, peidiwch â chyffroi. Rhaid i hyn ddigwydd, ond nid yw'r diwedd eto.

8. Oblegid cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas. Bydd daeargrynfâu mewn mannau. Bydd adegau o newyn.

Marc 13