Marc 10:21-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Edrychodd Iesu arno ac fe'i hoffodd, a dywedodd wrtho, “Un peth sy'n eisiau ynot; dos, gwerth y cwbl sydd gennyt a dyro i'r tlodion, a chei drysor yn y nef; a thyrd, canlyn fi.”

22. Cymylodd ei wedd ar y gair, ac aeth ymaith yn drist, oherwydd yr oedd yn berchen meddiannau lawer.

23. Edrychodd Iesu o'i gwmpas ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Mor anodd fydd hi i rai cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw!”

24. Syfrdanwyd y disgyblion gan ei eiriau, ond meddai Iesu wrthynt drachefn, “Blant, mor anodd yw mynd i mewn i deyrnas Dduw!

25. Y mae'n haws i gamel fynd trwy grau nodwydd nag i rywun cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw.”

26. Synasant yn fwy byth, ac meddent wrth ei gilydd, “Pwy ynteu all gael ei achub?”

27. Edrychodd Iesu arnynt a dywedodd, “Gyda dynion y mae'n amhosibl, ond nid gyda Duw. Y mae pob peth yn bosibl gyda Duw.”

28. Dechreuodd Pedr ddweud wrtho, “Dyma ni wedi gadael pob peth ac wedi dy ganlyn di.”

Marc 10