Marc 10:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Cychwynnodd oddi yno a daeth i diriogaeth Jwdea a'r tu hwnt i'r Iorddonen. Daeth tyrfaoedd ynghyd ato drachefn, a thrachefn yn ôl ei arfer dechreuodd eu dysgu.

2. A daeth Phariseaid ato a gofyn iddo a oedd yn gyfreithlon i ŵr ysgaru ei wraig; rhoi prawf arno yr oeddent.

3. Atebodd yntau hwy gan ofyn, “Beth a orchmynnodd Moses i chwi?”

4. Dywedasant hwythau, “Rhoddodd Moses ganiatâd i ysgrifennu llythyr ysgar a'i hanfon ymaith.”

Marc 10