34. Pan welodd bugeiliaid y moch beth oedd wedi digwydd fe ffoesant, gan adrodd yr hanes yn y dref ac yn y wlad.
35. Daeth pobl allan i weld beth oedd wedi digwydd. Daethant at Iesu, a chael y dyn yr oedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn eistedd wrth draed Iesu, รข'i ddillad amdano ac yn ei iawn bwyll; a daeth arnynt ofn.
36. Adroddwyd yr hanes wrthynt gan y rhai oedd wedi gweld sut yr iachawyd y dyn oedd wedi bod ym meddiant cythreuliaid.
37. Yna gofynnodd holl boblogaeth gwlad y Geraseniaid iddo fynd ymaith oddi wrthynt, am fod ofn mawr wedi cydio ynddynt; ac aeth ef i mewn i'r cwch i ddychwelyd.