Luc 8:10-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Meddai ef, “I chwi y mae gwybod cyfrinachau teyrnas Dduw wedi ei roi, ond i bawb arall y maent ar ddamhegion, fel“ ‘er edrych, na welant,ac er clywed, na ddeallant’.

11. “Dyma ystyr y ddameg. Yr had yw gair Duw.

12. Y rhai ar hyd y llwybr yw'r sawl sy'n clywed, ac yna daw'r diafol a chipio'r gair o'u calonnau, rhag iddynt gredu a chael eu hachub.

13. Y rhai ar y graig yw'r sawl sydd, pan glywant, yn croesawu'r gair yn llawen. Ond gan y rhain nid oes gwreiddyn; dros dro y credant, ac mewn awr o brawf fe wrthgiliant.

14. Yr hyn a syrthiodd ymhlith y drain, dyma'r sawl sy'n clywed, ond wrth iddynt fynd ar eu hynt cânt eu tagu gan ofalon a golud a phleserau bywyd, ac ni ddygant eu ffrwyth i aeddfedrwydd.

15. Ond hwnnw yn y tir da, dyna'r sawl sy'n clywed y gair â chalon dda rinweddol, yn dal eu gafael ynddo ac yn dwyn ffrwyth trwy ddyfalbarhad.

16. “Ni bydd neb yn cynnau cannwyll ac yn ei chuddio â llestr neu'n ei dodi dan y gwely. Nage, ar ganhwyllbren y dodir hi, er mwyn i'r rhai sy'n dod i mewn weld ei goleuni.

17. Oherwydd nid oes dim yn guddiedig na ddaw'n amlwg, na dim dan gêl na cheir ei wybod ac na ddaw i'r amlwg.

Luc 8