Luc 4:27-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

27. Ac yr oedd llawer o wahangleifion yn Israel yn amser y proffwyd Eliseus, ac ni lanhawyd yr un ohonynt hwy, ond yn hytrach Naaman y Syriad.”

28. Wrth glywed hyn llanwyd pawb yn y synagog â dicter;

29. codasant, a bwriasant ef allan o'r dref a mynd ag ef hyd at ael y bryn yr oedd eu tref wedi ei hadeiladu arno, i'w luchio o'r clogwyn.

30. Ond aeth ef drwy eu canol hwy, ac ymaith ar ei daith.

31. Aeth i lawr i Gapernaum, tref yng Ngalilea, a bu'n dysgu'r bobl ar y Saboth.

Luc 4