Luc 4:25-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

25. Ar fy ngwir rwy'n dweud wrthych, yr oedd llawer o wragedd gweddw yn Israel yn nyddiau Elias pan gaewyd y ffurfafen am dair blynedd a chwe mis, ac y bu newyn mawr ar yr holl wlad.

26. Ond nid at un ohonynt hwy yr anfonwyd Elias, ond yn hytrach at wraig weddw yn Sarepta yng ngwlad Sidon.

27. Ac yr oedd llawer o wahangleifion yn Israel yn amser y proffwyd Eliseus, ac ni lanhawyd yr un ohonynt hwy, ond yn hytrach Naaman y Syriad.”

28. Wrth glywed hyn llanwyd pawb yn y synagog â dicter;

29. codasant, a bwriasant ef allan o'r dref a mynd ag ef hyd at ael y bryn yr oedd eu tref wedi ei hadeiladu arno, i'w luchio o'r clogwyn.

30. Ond aeth ef drwy eu canol hwy, ac ymaith ar ei daith.

31. Aeth i lawr i Gapernaum, tref yng Ngalilea, a bu'n dysgu'r bobl ar y Saboth.

32. Yr oeddent yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu, oherwydd yr oedd ei air yn llawn awdurdod.

33. Yn y synagog yr oedd dyn a chanddo ysbryd cythraul aflan. Gwaeddodd hwnnw â llais uchel,

34. “Och, beth sydd a fynni di â ni, Iesu o Nasareth? A wyt ti wedi dod i'n difetha ni? Mi wn pwy wyt ti—Sanct Duw.”

35. Ceryddodd Iesu ef â'r geiriau, “Taw, a dos allan ohono.” Lluchiodd y cythraul y dyn i'w canol ac aeth allan ohono heb niweidio dim arno.

36. Aeth pawb yn syn a dechreusant siarad â'i gilydd, gan ddweud, “Pa air yw hwn? Y mae ef yn gorchymyn yr ysbrydion aflan ag awdurdod ac â nerth, ac y maent yn mynd allan.”

37. Yr oedd sôn amdano yn mynd ar hyd a lled y gymdogaeth.

38. Ymadawodd Iesu â'r synagog ac aeth i dŷ Simon. Yr oedd mam-yng-nghyfraith Simon yn dioddef dan dwymyn lem, a deisyfasant ar Iesu ar ei rhan.

39. Safodd ef uwch ei phen a cheryddu'r dwymyn, a gadawodd y dwymyn hi; ac ar unwaith cododd a dechrau gweini arnynt.

40. Ac ar fachlud haul, pawb oedd â chleifion yn dioddef dan amrywiol afiechydon, daethant â hwy ato; a gosododd yntau ei ddwylo ar bob un ohonynt a'u hiacháu.

41. Yr oedd cythreuliaid yn ymadael â llawer o bobl gan floeddio, “Mab Duw wyt ti.” Ond eu ceryddu a wnâi ef, a gwahardd iddynt ddweud gair, am eu bod yn gwybod mai'r Meseia oedd ef.

42. Pan ddaeth hi'n ddydd aeth allan a theithio i le unig. Yr oedd y tyrfaoedd yn chwilio amdano, a daethant hyd ato a cheisio'i rwystro rhag mynd ymaith oddi wrthynt.

43. Ond dywedodd ef wrthynt, “Y mae'n rhaid imi gyhoeddi'r newydd da am deyrnas Dduw i'r trefi eraill yn ogystal, oherwydd i hynny y'm hanfonwyd i.”

44. Ac yr oedd yn pregethu yn synagogau Jwdea.

Luc 4