Luc 3:12-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Daeth casglwyr trethi hefyd i'w bedyddio, ac meddent wrtho, “Athro, beth a wnawn ni?”

13. Meddai yntau wrthynt, “Peidiwch â mynnu dim mwy na'r swm a bennwyd ichwi.”

14. Byddai dynion ar wasanaeth milwrol hefyd yn gofyn iddo, “Beth a wnawn ninnau?” Meddai wrthynt, “Peidiwch ag ysbeilio neb trwy drais neu gamgyhuddiad, ond byddwch fodlon ar eich cyflog.”

15. Gan fod y bobl yn disgwyl, a phawb yn ystyried yn ei galon tybed ai Ioan oedd y Meseia,

16. dywedodd ef wrth bawb: “Yr wyf fi yn eich bedyddio â dŵr; ond y mae un cryfach na mi yn dod. Nid wyf fi'n deilwng i ddatod carrai ei sandalau ef. Bydd ef yn eich bedyddio â'r Ysbryd Glân ac â thân.

17. Y mae ei wyntyll yn barod yn ei law, i nithio'n lân yr hyn a ddyrnwyd, ac i gasglu'r grawn i'w ysgubor. Ond am yr us, bydd yn llosgi hwnnw â thân anniffoddadwy.”

18. Fel hyn, a chyda llawer anogaeth arall hefyd, yr oedd yn cyhoeddi'r newydd da i'r bobl.

19. Ond gan ei fod yn ceryddu'r Tywysog Herod ynglŷn â Herodias, gwraig ei frawd, ac ynglŷn â'i holl weithredoedd drygionus,

20. ychwanegodd Herod y drygioni hwn at y cwbl, sef cloi Ioan yng ngharchar.

21. Pan oedd yr holl bobl yn cael eu bedyddio, yr oedd Iesu, ar ôl ei fedydd ef, yn gweddïo. Agorwyd y nef,

22. a disgynnodd yr Ysbryd Glân arno mewn ffurf gorfforol fel colomen; a daeth llais o'r nef: “Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.”

23. Tua deng mlwydd ar hugain oed oedd Iesu ar ddechrau ei weinidogaeth. Yr oedd yn fab, yn ôl y dybiaeth gyffredin, i Joseff fab Eli,

24. fab Mathat, fab Lefi, fab Melchi, fab Jannai, fab Joseff,

25. fab Matathias, fab Amos, fab Nahum, fab Esli, fab Nagai,

26. fab Maath, fab Matathias, fab Semein, fab Josech, fab Joda,

27. fab Joanan, fab Rhesa, fab Sorobabel, fab Salathiel, fab Neri,

28. fab Melchi, fab Adi, fab Cosam, fab Elmadam, fab Er,

Luc 3