Luc 24:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Yna, a hwythau mewn penbleth ynglŷn â hyn, dyma ddau ddyn yn ymddangos iddynt mewn gwisgoedd llachar.

5. Daeth ofn arnynt, a phlygasant eu hwynebau tua'r ddaear. Meddai'r dynion wrthynt, “Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy'n fyw?

6. Nid yw ef yma; y mae wedi ei gyfodi. Cofiwch fel y llefarodd wrthych tra oedd eto yng Ngalilea,

7. gan ddweud ei bod yn rhaid i Fab y Dyn gael ei draddodi i ddwylo pechaduriaid, a'i groeshoelio, a'r trydydd dydd atgyfodi.”

Luc 24