Luc 24:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ar y dydd cyntaf o'r wythnos, ar doriad gwawr, daethant at y bedd gan ddwyn y peraroglau yr oeddent wedi eu paratoi.

2. Cawsant y maen wedi ei dreiglo i ffwrdd oddi wrth y bedd,

3. ond pan aethant i mewn ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu.

Luc 24