Luc 23:38-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

38. Yr oedd hefyd arysgrif uwch ei ben: “Hwn yw Brenin yr Iddewon.”

39. Yr oedd un o'r troseddwyr ar ei groes yn ei gablu gan ddweud, “Onid ti yw'r Meseia? Achub dy hun a ninnau.”

40. Ond atebodd y llall, a'i geryddu: “Onid oes arnat ofn Duw, a thithau dan yr un ddedfryd?

41. I ni, y mae hynny'n gyfiawn, oherwydd haeddiant ein gweithredoedd sy'n dod inni. Ond ni wnaeth hwn ddim o'i le.”

Luc 23