Luc 22:35-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

35. Dywedodd wrthynt, “Pan anfonais chwi allan heb bwrs na chod na sandalau, a fuoch yn brin o ddim?” “Naddo,” atebasant.

36. Meddai yntau, “Ond yn awr, os oes gennych bwrs, ewch ag ef gyda chwi, a'ch cod yr un modd; ac os nad oes gennych gleddyf, gwerthwch eich mantell a phrynu un.

37. Rwy'n dweud wrthych fod yn rhaid cyflawni ynof fi yr Ysgrythur sy'n dweud: ‘A chyfrifwyd ef gyda throseddwyr.’ Oherwydd y mae'r hyn a ragddywedwyd amdanaf fi yn dod i ben.”

Luc 22