Luc 22:31-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

31. “Simon, Simon, dyma Satan wedi eich hawlio chwi, i'ch gogrwn fel ŷd;

32. ond yr wyf fi wedi deisyf drosot ti na fydd dy ffydd yn pallu. A thithau, pan fyddi wedi dychwelyd ataf, cadarnha dy frodyr.”

33. Meddai ef wrtho, “Arglwydd, gyda thi rwy'n barod i fynd i garchar ac i farwolaeth.”

Luc 22