Luc 21:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. fe roddaf fi i chwi huodledd, a doethineb na all eich holl wrthwynebwyr ei wrthsefyll na'i wrth-ddweud.

16. Fe'ch bradychir gan eich rhieni a'ch ceraint a'ch perthnasau a'ch cyfeillion, a pharant ladd rhai ohonoch.

17. A chas fyddwch gan bawb o achos fy enw i.

18. Ond ni chollir yr un blewyn o wallt eich pen.

19. Trwy eich dyfalbarhad meddiannwch fywyd i chwi eich hunain.

Luc 21