Luc 2:39-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

39. Wedi iddynt gyflawni popeth yn unol â Chyfraith yr Arglwydd, dychwelsant i Galilea, i Nasareth eu tref eu hunain.

40. Yr oedd y plentyn yn tyfu yn gryf ac yn llawn doethineb; ac yr oedd ffafr Duw arno.

41. Byddai ei rieni yn teithio i Jerwsalem bob blwyddyn ar gyfer gŵyl y Pasg.

42. Pan oedd ef yn ddeuddeng mlwydd oed, aethant i fyny yn unol â'r arfer ar yr ŵyl,

43. a chadw ei dyddiau yn gyflawn. Ond pan oeddent yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Jerwsalem yn ddiarwybod i'w rieni.

44. Gan dybio ei fod gyda'u cyd-deithwyr, gwnaethant daith diwrnod cyn dechrau chwilio amdano ymhlith eu perthnasau a'u cydnabod.

45. Wedi methu cael hyd iddo, dychwelsant i Jerwsalem gan chwilio amdano.

46. Ymhen tridiau daethant o hyd iddo yn y deml, yn eistedd yng nghanol yr athrawon, yn gwrando arnynt ac yn eu holi;

47. ac yr oedd pawb a'i clywodd yn rhyfeddu mor ddeallus oedd ei atebion.

Luc 2