Luc 17:28-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

28. Fel y bu hi yn nyddiau Lot: yr oedd pobl yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu;

29. ond y dydd yr aeth Lot allan o Sodom, fe lawiodd tân a brwmstan o'r nef a difa pawb.

30. Yn union felly y bydd hi yn y dydd y datguddir Mab y Dyn.

Luc 17