Luc 16:29-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

29. Ond dywedodd Abraham, ‘Y mae Moses a'r proffwydi ganddynt; dylent wrando arnynt hwy.’

30. ‘Nage, Abraham, fy nhad,’ atebodd ef, ‘ond os â rhywun atynt oddi wrth y meirw, fe edifarhânt.’

31. Ond meddai ef wrtho, ‘Os nad ydynt yn gwrando ar Moses a'r proffwydi, yna ni chânt eu hargyhoeddi hyd yn oed os atgyfoda rhywun o blith y meirw.’ ”

Luc 16