Luc 12:40-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

40. Chwithau hefyd, byddwch barod, oherwydd pryd na thybiwch y daw Mab y Dyn.”

41. Meddai Pedr, “Arglwydd, ai i ni yr wyt yn adrodd y ddameg hon, ai i bawb yn ogystal?”

42. Dywedodd yr Arglwydd, “Pwy ynteu yw'r goruchwyliwr ffyddlon a chall a osodir gan ei feistr dros ei weision, i roi eu dogn bwyd iddynt yn ei bryd?

43. Gwyn ei fyd y gwas hwnnw a geir yn gwneud felly gan ei feistr pan ddaw;

44. yn wir, rwy'n dweud wrthych y gesyd ef dros ei holl eiddo.

Luc 12