Luc 12:21-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Felly y bydd hi ar y rhai sy'n casglu trysor iddynt eu hunain a heb fod yn gyfoethog gerbron Duw.”

22. Meddai wrth ei ddisgyblion, “Am hynny rwy'n dweud wrthych, peidiwch â phryderu am eich bywyd nac am eich corff, beth i'w fwyta na beth i'w wisgo.

23. Oherwydd y mae mwy i fywyd rhywun na bwyd, a mwy i'w gorff na dillad.

24. Ystyriwch y brain: nid ydynt yn hau nac yn medi, nid oes ganddynt ystordy nac ysgubor, ac eto y mae Duw yn eu bwydo. Gymaint mwy gwerthfawr ydych chwi na'r adar!

25. A ph'run ohonoch a all ychwanegu munud at ei oes trwy bryderu?

Luc 12