Luc 11:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Ond os trwy fys Duw yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, yna y mae teyrnas Dduw wedi cyrraedd atoch.

21. Pan fydd dyn cryf yn ei arfwisg yn gwarchod ei blasty ei hun, bydd ei eiddo yn cael llonydd;

22. ond pan fydd un cryfach nag ef yn ymosod arno ac yn ei drechu, bydd hwnnw'n cymryd yr arfwisg yr oedd ef wedi ymddiried ynddi, ac yn rhannu'r ysbail.

23. Os nad yw rhywun gyda mi, yn fy erbyn i y mae, ac os nad yw'n casglu gyda mi, gwasgaru y mae.

Luc 11