Luc 1:68-80 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

68. “Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israelam iddo ymweld â'i bobl a'u prynu i ryddid;

69. cododd waredigaeth gadarn i niyn nhŷ Dafydd ei was—

70. fel y llefarodd trwy enau ei broffwydi sanctaidd yn yr oesoedd a fu—

71. gwaredigaeth rhag ein gelynion ac o afael pawb sydd yn ein casáu;

72. fel hyn y cymerodd drugaredd ar ein hynafiaid,a chofio ei gyfamod sanctaidd,

73. y llw a dyngodd wrth Abraham ein tad,y rhoddai inni

74. gael ein hachub o afael gelynion,a'i addoli yn ddiofn

75. mewn sancteiddrwydd a chyfiawnderger ei fron ef holl ddyddiau ein bywyd.

76. A thithau, fy mhlentyn, gelwir di yn broffwyd y Goruchaf,oherwydd byddi'n cerdded o flaen yr Arglwydd i baratoi ei lwybrau,

77. i roi i'w bobl wybodaeth am waredigaethtrwy faddeuant eu pechodau.

78. Hyn yw trugaredd calon ein Duw—fe ddaw â'r wawrddydd oddi uchod i'n plith,

79. i lewyrchu ar y rhai sy'n eistedd yn nhywyllwch cysgod angau,a chyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.”

80. Yr oedd y plentyn yn tyfu ac yn cryfhau yn ei ysbryd; a bu yn yr anialwch hyd y dydd y dangoswyd ef i Israel.

Luc 1