Lefiticus 9:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Daeth hefyd â'r bwydoffrwm a chymryd dyrnaid ohono, a'i losgi ar yr allor ynghyd â'r poethoffrymau boreol.

18. Lladdodd hefyd yr ych a'r hwrdd yn heddoffrwm dros y bobl; daeth ei feibion â'r gwaed ato, a lluchiodd yntau ef ar bob ochr i'r allor.

19. Ond am fraster yr ych a'r hwrdd, y gynffon fras, yr haen o fraster, yr arennau, a gorchudd yr iau,

20. gosodwyd hwy ar y frest, ac yna llosgodd Aaron y braster ar yr allor.

21. Chwifiodd y brestiau a'r glun dde yn offrwm cyhwfan o flaen yr ARGLWYDD, fel y gorchmynnodd Moses.

Lefiticus 9