Lefiticus 6:27-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

27. Bydd unrhyw beth sy'n cyffwrdd â'r cig yn sanctaidd, ac os collir peth o'i waed ar wisg, rhaid ei golchi mewn lle sanctaidd.

28. Rhaid torri'r llestr pridd y coginir y cig ynddo; ond os mewn llestr pres y coginir ef, rhaid ei sgwrio a'i olchi â dŵr.

29. Caiff pob gwryw o blith yr offeiriaid ei fwyta; y mae'n gwbl sanctaidd.

30. Ond ni ddylid bwyta unrhyw aberth dros bechod y dygir ei waed i babell y cyfarfod i wneud cymod yn y cysegr; rhaid ei losgi yn y tân.

Lefiticus 6