Lefiticus 19:32-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

32. “ ‘Yr wyt i godi i'r oedrannus a pharchu'r hen, ac fe ofni dy Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.

33. “ ‘Pan fydd estron yn byw gyda thi yn dy wlad, nid wyt i'w gam-drin.

34. Y mae'r estron sy'n byw gyda thi i'w ystyried gennyt fel brodor o'ch plith; yr wyt i'w garu fel ti dy hun, oherwydd estroniaid fuoch chwi yng ngwlad yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.

35. “ ‘Nid ydych i dwyllo wrth fesur, boed hyd, pwysau neu nifer.

Lefiticus 19