Lefiticus 15:31-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

31. “ ‘Yr ydych i gadw pobl Israel oddi wrth eu haflendid, rhag iddynt farw yn eu haflendid am iddynt halogi fy nhabernacl sydd yn eu mysg.’ ”

32. Dyma'r gyfraith ynglŷn â diferlif, y dyn sy'n dod yn aflan trwy ollwng ei had,

33. a'r wraig sy'n dioddef o'i misglwyf, sef dyn neu wraig â diferlif, a hefyd dyn sy'n gorwedd gyda gwraig sy'n aflan.

Lefiticus 15