Josua 9:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Ond meddai pobl Israel wrth yr Hefiaid, “Efallai eich bod yn byw yn ein hymyl, ac os felly, sut y gwnawn ni gyfamod â chwi?”

8. Dywedasant wrth Josua, “Dy weision di ydym.” Pan ofynnodd Josua iddynt, “Pwy ydych, ac o ble y daethoch?”,

9. atebasant, “Y mae dy weision wedi dod o wlad bell iawn o achos enw'r ARGLWYDD dy Dduw; oblegid clywsom sôn amdano ef, ac am y cwbl a wnaeth yn yr Aifft,

10. ac i ddau frenin yr Amoriaid y tu hwnt i'r Iorddonen, Sihon brenin Hesbon ac Og brenin Basan, a drigai yn Astaroth.

11. Am hynny dywedodd ein henuriaid a holl drigolion ein gwlad wrthym, ‘Cymerwch fwyd ar gyfer y daith ac ewch i'w cyfarfod, a dywedwch wrthynt, “Eich gweision ydym; felly'n awr gwnewch gyfamod â ni.” ’

Josua 9