Josua 3:4-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Er hynny bydded pellter o tua dwy fil o gufyddau rhyngoch chwi a'r arch; peidiwch â mynd yn nes na hyn.”

5. Yna dywedodd Josua wrth y bobl, “Ymgysegrwch, oherwydd yfory bydd yr ARGLWYDD yn gwneud rhyfeddodau yn eich mysg.”

6. A dywedodd wrth yr offeiriaid, “Codwch arch y cyfamod ac ewch drosodd o flaen y bobl.” Ac wedi iddynt godi arch y cyfamod, aethant o flaen y bobl.

7. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Heddiw yr wyf am ddechrau dy ddyrchafu yng ngolwg Israel gyfan, er mwyn iddynt sylweddoli fy mod i gyda thi fel y bûm gyda Moses.

8. Felly gorchymyn di i'r offeiriaid sy'n cludo arch y cyfamod, ‘Pan ddewch at lan dyfroedd yr Iorddonen, safwch ynddi.’ ”

9. Dywedodd Josua wrth yr Israeliaid, “Nesewch a gwrandewch eiriau'r ARGLWYDD eich Duw.

10. Dyma sut y byddwch yn gwybod bod y Duw byw yn eich mysg, a'i fod yn sicr o yrru allan o'ch blaen y Canaaneaid, Hethiaid, Hefiaid, Peresiaid, Girgasiaid, Amoriaid a Jebusiaid:

11. bydd arch cyfamod Arglwydd yr holl ddaear yn croesi o'ch blaen drwy'r Iorddonen.

Josua 3