Josua 23:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Wedi cyfnod maith, a'r ARGLWYDD wedi rhoi llonyddwch i Israel oddi wrth eu holl elynion o'u hamgylch, yr oedd Josua yn hen ac yn oedrannus.

2. Galwodd ato Israel gyfan, eu henuriaid, penaethiaid, barnwyr a swyddogion, a dweud wrthynt, “Yr wyf yn hen ac yn oedrannus.

3. Gwelsoch y cwbl a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i'r holl genhedloedd hyn er eich mwyn, oherwydd yr ARGLWYDD eich Duw oedd yn ymladd drosoch.

Josua 23