7. I hanner llwyth Manasse yr oedd Moses wedi rhoi tir yn Basan; i'r hanner arall rhoddodd Josua dir gyda'u perthnasau i'r gorllewin o'r Iorddonen. Wrth eu hanfon adref a'u bendithio,
8. dywedodd Josua wrthynt, “Dychwelwch adref â chyfoeth mawr a llawer iawn o anifeiliaid, hefyd arian, aur, pres a haearn, a llawer iawn o ddillad; rhannwch â'ch perthnasau ysbail eich gelynion.”
9. Dychwelodd y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse o Seilo yng ngwlad Canaan, a gadael yr Israeliaid i fynd i wlad Gilead, y diriogaeth a feddiannwyd ganddynt yn ôl gair yr ARGLWYDD drwy Moses.
10. Pan ddaethant i Geliloth ger yr Iorddonen, cododd y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse allor yno yng ngwlad Canaan ger yr Iorddonen; yr oedd yn allor nodedig o fawr.
11. Clywodd yr Israeliaid fod y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse wedi adeiladu allor ar derfyn gwlad Canaan, yn Geliloth ger yr Iorddonen, ar ochr yr Israeliaid;
12. ac wedi iddynt glywed, ymgynullodd holl gynulleidfa'r Israeliaid i Seilo, er mwyn mynd i ryfel yn eu herbyn.
13. Anfonodd yr Israeliaid Phinees, mab yr offeiriad Eleasar, i Gilead at y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse
14. gyda deg pennaeth, un ar gyfer pob un o lwythau Israel, pob un yn benteulu ymysg tylwythau Israel.
15. Daethant at y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse yng ngwlad Gilead a dweud wrthynt,