Josua 16:8-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. O Tappua âi'r terfyn tua'r gorllewin ar hyd nant Cana nes cyrraedd y môr. Dyma etifeddiaeth llwyth Effraim yn ôl eu tylwythau.

9. Yr oedd yn cynnwys hefyd y trefi a neilltuwyd i Effraim yng nghanol etifeddiaeth Manasse, yr holl drefi a'u pentrefi.

10. Ni ddisodlwyd y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser; felly y mae'r Canaaneaid yn byw ymysg yr Effraimiaid hyd y dydd hwn, ond eu bod dan lafur gorfod.

Josua 16