Josua 12:7-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Dyma frenhinoedd y wlad a drawyd gan Josua a'r Israeliaid i'r gorllewin o'r Iorddonen, o Baal-gad yn nyffryn Lebanon hyd at Fynydd Halac sy'n codi i gyfeiriad Seir. Rhoddodd Josua'r tir yn feddiant i lwythau Israel yn ôl eu cyfrannau

8. yn y mynydd-dir, y Seffela, yr Araba, y llechweddau, y diffeithwch a'r Negef; yno'r oedd yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid. Dyma'r brenhinoedd:

9. brenin Jericho, brenin Ai ger Bethel,

10. brenin Jerwsalem, brenin Hebron,

11. brenin Jarmuth, brenin Lachis,

12. brenin Eglon, brenin Geser,

13. brenin Debir, brenin Geder,

14. brenin Horma, brenin Arad,

Josua 12