Josua 12:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dyma frenhinoedd y wlad a drawyd gan yr Israeliaid ac y cymerwyd meddiant o'u tiroedd i'r dwyrain o'r Iorddonen, o nant Arnon hyd at Fynydd Hermon, gan gynnwys holl ddwyrain yr Araba:

2. Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn byw yn Hesbon. Yr oedd ef yn llywodraethu o Aroer, sydd ar ymyl nant Arnon, dros hanner Gilead, hynny yw, o ganol nant Arnon hyd at nant Jabboc, terfyn yr Ammoniaid;

3. hefyd dros ddwyrain yr Araba o lan Môr Cinneroth at lan môr yr Araba, sef y Môr Marw, i gyfeiriad Beth-jesimoth ac ymlaen i'r de dan lethrau Pisga.

4. Og brenin Basan, un o weddill y Reffaim, a oedd yn byw yn Astaroth ac yn Edrei.

5. Yr oedd ef yn llywodraethu dros Fynydd Hermon, Salcha, a Basan i gyd, hyd at derfyn y Gesuriaid a'r Maachathiaid, a thros hanner Gilead hyd at derfyn Sihon brenin Hesbon.

Josua 12