Josua 10:34-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

34. Aeth Josua a holl Israel gydag ef yn eu blaen o Lachis i Eglon, a gwersyllu yn ei herbyn ac ymosod arni.

35. Goresgynnodd y bobl hi y diwrnod hwnnw a'i tharo â'r cleddyf a lladd pawb oedd ynddi, yn union fel y gwnaed i Lachis.

36. Aeth Josua a holl Israel gydag ef i fyny o Eglon i Hebron, ac ymosod arni.

37. Goresgynnodd hi a tharo â'r cleddyf y ddinas, ei brenin, a'i maestrefi i gyd a phawb oedd ynddynt, heb arbed neb, ond ei difodi hi a phawb oedd ynddi, yn union fel y gwnaeth i Eglon.

Josua 10