Joel 3:9-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. “Cyhoeddwch hyn ymysg y cenhedloedd:‘Ymgysegrwch i ryfel;galwch y gwŷr cryfion;doed y milwyr ynghyd i ymosod.

10. Curwch eich ceibiau'n gleddyfaua'ch crymanau'n waywffyn;dyweded y gwan, “Rwy'n rhyfelwr.”

11. “ ‘Dewch ar frys,chwi genhedloedd o amgylch,ymgynullwch yno.’ ”Anfon i lawr dy ryfelwyr, O ARGLWYDD.

12. “Bydded i'r cenhedloedd ymysgwyda dyfod i ddyffryn Jehosaffat;oherwydd yno'r eisteddaf mewn barnar yr holl genhedloedd o amgylch.

13. “Codwch y cryman,y mae'r cynhaeaf yn barod;dewch i sathru,y mae'r gwinwryf yn llawn;y mae'r cafnau'n gorlifo,oherwydd mawr yw eu drygioni.”

14. Tyrfa ar dyrfayn nyffryn y ddedfryd,oherwydd agos yw dydd yr ARGLWYDDyn nyffryn y ddedfryd.

15. Bydd yr haul a'r lleuad yn tywyllu,a'r sêr yn atal eu goleuni.

16. Rhua'r ARGLWYDD o Seion,a chodi ei lef o Jerwsalem;cryna'r nefoedd a'r ddaear.Ond y mae'r ARGLWYDD yn gysgod i'w bobl,ac yn noddfa i blant Israel.

17. “Cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw,yn trigo yn Seion, fy mynydd sanctaidd.A bydd Jerwsalem yn sanctaidd,ac nid â dieithriaid trwyddi eto.

Joel 3