Job 5:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Ond gwared ef yr anghenus o'u gafael,a'r truan o afael y cryf.

16. Am hynny y mae gobaith i'r tlawd,ac anghyfiawnder yn cau ei safn.

17. “Dedwydd y sawl a gerydda Duw,ac na wrthyd ddisgyblaeth yr Hollalluog.

18. Ef a ddoluria, ac ef hefyd a rwyma'r dolur;ef a archolla, ond rhydd ei ddwylo feddyginiaeth.

19. Fe'th wared di rhag chwe chyfyngder;ac mewn saith, ni ddaw drwg arnat.

20. Fe'th achub di rhag marw mewn newyn,a rhag y cleddyf mewn brwydr.

Job 5