Job 42:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dywedodd Job wrth yr ARGLWYDD:

2. “Gwn dy fod yn gallu gwneud popeth,ac nad oes dim yn amhosibl i ti.

3. Meddi, ‘Pwy yw hwn sy'n cuddio deall â geiriau diwybod?’Yn wir, rwyf wedi mynegi pethau nad oeddwn yn eu deall,pethau rhyfeddol, tu hwnt i'm dirnad.

4. Yn awr gwrando, a gad i mi lefaru;fe holaf fi di, a chei dithau f'ateb.

Job 42