Job 4:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. ‘A yw meidrol yn fwy cyfiawn na Duw,ac yn burach na'i Wneuthurwr?

18. Os nad yw Duw'n ymddiried yn ei weision,ac os yw'n cyhuddo'i angylion o gamwedd,

19. beth, ynteu, am y rhai sy'n trigo mewn tai o glai,a'u sylfeini mewn pridd,y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn?

20. Torrir hwy i lawr rhwng bore a hwyr,llwyr ddifethir hwy, heb neb yn sylwi.

21. Pan ddatodir llinyn eu pabell,oni fyddant farw heb ddoethineb?’ ”

Job 4