Job 4:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yna atebodd Eliffas y Temaniad:

2. “Os mentra rhywun lefaru wrthyt, a golli di dy amynedd?Eto pwy a all atal geiriau?

3. Wele, buost yn cynghori llawerac yn nerthu'r llesg eu dwylo;

4. cynhaliodd dy eiriau'r rhai sigledig,a chadarnhau'r gliniau gwan.

5. Ond yn awr daeth adfyd arnat ti, a chymeraist dramgwydd;cyffyrddodd â thi, ac yr wyt mewn helbul.

Job 4