Job 39:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Crwydra'r mynyddoedd am borfa,a chwilia am bob blewyn glas.

9. “A yw'r ych gwyllt yn fodlon bod yn dy wasanaeth,a threulio'r nos wrth dy breseb?

10. A wyt yn gallu ei rwymo i gerdded yn y rhych,neu a fydd iddo lyfnu'r dolydd ar dy ôl?

11. A wyt ti'n dibynnu arno am ei fod yn gryf?A adewi dy lafur iddo?

12. A ymddiriedi ynddo i ddod â'th rawn yn ôl,a'i gasglu i'th lawr dyrnu?

13. “Ysgwyd yn brysur a wna adenydd yr estrys,ond heb fedru hedfan fel adenydd y garan;

Job 39