Job 38:27-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

27. i ddigoni'r tir diffaith ac anial,a pheri i laswellt dyfu yno?

28. “A oes tad i'r glaw?Pwy a genhedlodd y defnynnau gwlith?

29. O groth pwy y daw'r rhew?A phwy a genhedlodd y llwydrew,

30. i galedu'r dyfroedd fel carreg,a rhewi wyneb y dyfnder?

31. A fedri di gau cadwynau Pleiades,neu ddatod rhwymau Orion?

Job 38