Job 38:18-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. A fedri di ddirnad maint y ddaear?Dywed, os wyt ti'n deall hyn i gyd.

19. “Prun yw'r ffordd i drigfan goleuni,ac i le tywyllwch,

20. fel y gelli di ei chymryd i'w therfyn,a gwybod y llwybr i'w thŷ?

21. Fe wyddost, am dy fod wedi dy eni yr adeg honno,a bod nifer dy ddyddiau yn fawr!

22. “A fuost ti yn ystordai'r eira,neu'n gweld cistiau'r cesair?

23. Dyma'r pethau a gedwais at gyfnod trallod,at ddydd brwydr a rhyfel.

Job 38